18 A'r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a'u croesawodd hwynt, ac a'u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda'r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.
21 A'r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.
22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i'w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.
23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd.
24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel.