12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
13 Ac yn awr, ein Duw ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.
14 Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoesom i ti.
15 Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.
16 O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i'th enw sanctaidd, o'th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
17 Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.
18 Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.