23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24 Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25 A'r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.
26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.
27 A'r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
28 Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29 Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,