61 Ac i'r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o'r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren.
62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd.
63 I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.
64 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.
65 A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.
66 I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim.
67 A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a'i meysydd pentrefol,