65 A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.
66 I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim.
67 A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a'i meysydd pentrefol,
68 Jocmeam hefyd a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol,
69 Ac Ajalon a'i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a'i meysydd pentrefol.
70 Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a'i meysydd pentrefol, a Bileam a'i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath.
71 I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a'i meysydd pentrefol.