12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
13 Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
14 Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead:
15 A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched.
16 A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a'i feibion ef oedd Ulam a Racem.
17 A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.