18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala.
19 A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.
20 A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,
21 A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a'u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt.
22 Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a'i frodyr a ddaethant i'w gysuro ef.
23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef.
24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf, a'r uchaf hefyd, ac Ussen‐sera.)