34 A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram.
35 A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal.
36 Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra,
37 Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera.
38 A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara.
39 A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia.
40 Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau‐capteiniaid. A'r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.