7 A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.
8 A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher.
9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant.
10 A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar.
11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.
12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
13 Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.