32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i'w ddarparu bob Saboth.
33 A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.
34 Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:
36 A'i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,
37 A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth.
38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.