15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.
16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.
17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa;
18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o'r Aifft, ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a'r rhai a'ch gorthryment chwi.
19 A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a'ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.
20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin.
21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.