22 Am hynny y gofynasant eto i'r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A'r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn.
23 A hwy a redasant, ac a'i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o'i ysgwydd i fyny yn uwch na'r holl bobl.
24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A'r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo'r brenin.
25 Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a'i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a'i gosododd gerbron yr Arglwydd. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i'w dŷ.
26 A Saul hefyd a aeth i'w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o'r rhai y cyffyrddasai Duw â'u calon, a aeth gydag ef.
27 Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a'i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.