8 A dos i waered o'm blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
9 A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a'r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.
10 A phan ddaethant yno i'r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.
11 A phawb a'r a'i hadwaenai ef o'r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda'r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
12 Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
13 Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i'r uchelfa.
14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio'r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.