1 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr Arglwydd a'm hanfonodd i i'th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd.
2 Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i'w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o'r Aifft.
3 Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn.
4 A Saul a gynullodd y bobl, ac a'u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda.
5 A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.
6 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o'r Aifft. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.
7 A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft.
8 Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf.
9 Ond Saul a'r bobl a arbedasant Agag, a'r gorau o'r defaid, a'r ychen, a'r brasaf o'r ŵyn, a'r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.
10 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd,
11 Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos.
12 A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal.
13 A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd: mi a gyflewnais air yr Arglwydd.
14 A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed?
15 A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a'r ychen, i aberthu i'r Arglwydd dy Dduw; a'r rhan arall a ddifrodasom ni.
16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara.
17 A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel?
18 A'r Arglwydd a'th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i'w herbyn, nes eu difa hwynt.
19 Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd?
20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd y'm hanfonodd yr Arglwydd iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid.
21 Ond y bobl a gymerth o'r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i'r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal.
22 A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr Arglwydd? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod.
23 Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd, yntau a'th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.
24 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr Arglwydd, a'th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.
25 Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd.
26 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd, a'r Arglwydd a'th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel.
27 A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd.
28 A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a'i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi.
29 A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau.
30 Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw.
31 Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr Arglwydd.
32 Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith.
33 A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.
34 Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i'w dŷ yn Gibea Saul.
35 Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel.