1 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr Arglwydd a'm hanfonodd i i'th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd.
2 Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i'w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o'r Aifft.
3 Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn.
4 A Saul a gynullodd y bobl, ac a'u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda.
5 A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.
6 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o'r Aifft. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.