13 A defod yr offeiriad gyda'r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law;
14 Ac a'i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.
15 Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i'w rostio i'r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.
16 Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a'i cymeraf trwy gryfder.
17 Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd.
18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.
19 A'i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a'i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda'i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.