2 Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni.
3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o'ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a'i amcanion ef a gyflawnir.
4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a'r gweiniaid a ymwregysasant â nerth.
5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.
6 Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i'r bedd, ac yn dwyn i fyny.
7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.
8 Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.