22 Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.
24 Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu.
25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt.
26 A'r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.
27 A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?
28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel?