4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a'r gweiniaid a ymwregysasant â nerth.
5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.
6 Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i'r bedd, ac yn dwyn i fyny.
7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.
8 Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
9 Traed ei saint a geidw efe, a'r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.
10 Y rhai a ymrysonant â'r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o'r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i'w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.