17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o'r holl bethau a lefarodd efe wrthyt.
18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
19 A chynyddodd Samuel; a'r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o'i eiriau ef syrthio i'r ddaear.
20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel.
21 A'r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd.