1 A'r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
2 A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a'i feibion; a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.
3 A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a'r gwŷr bwâu a'i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion.
4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i'r rhai dienwaededig yma ddyfod a'm trywanu i, a'm gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.
5 A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.
6 Felly y bu farw Saul, a'i dri mab, a'i yswain, a'i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.