9 A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.
10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a'i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.
11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;
12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a'u llosgasant hwynt yno.
13 A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a'u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.