1 Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.
2 Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o'i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o'r clefyd hwn.
3 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron?
4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.
5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?
6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i'n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a'ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i'ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?