3 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron?
4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.
5 A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?
6 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i'n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a'ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i'ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?
8 A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.
9 Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a'i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.