22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.
23 A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd, ond addolwyr Baal yn unig.
24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o'r dynion a ddygais i'ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.
25 A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a'r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan. Felly hwy a'u trawsant hwy â min y cleddyf: a'r swyddogion a'r tywysogion a'u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.
26 A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a'u llosgasant hwy.
27 A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a'i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.
28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.