28 Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.
29 Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a'r rhai oedd yn Dan.
30 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a'r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.
31 Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â'i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel: a Hasael a'u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;
33 O'r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a'r Reubeniaid, a'r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.
34 A'r rhan arall o hanes Jehu, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?