1 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.
2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.
3 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.
4 A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd, a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a'u gorthrymai hwynt.