11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt.
12 A'r rhan arall o hanes Joas, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
13 A Joas a hunodd gyda'i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.
14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o'r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a'i farchogion.
15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau.
16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua'r dwyrain. Yntau a'i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymwared yr Arglwydd, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt.