5 (A'r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.
6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddynt hwy: a'r llwyn hefyd a safai yn Samaria.)
7 Ac ni adawodd efe i Joahas o'r bobl, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a'u dinistriasai hwynt, ac a'u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.
8 A'r rhan arall o hanes Joahas, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
9 A Joahas a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.
11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt.