1 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda.
2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.
3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef:
4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
5 A'r Arglwydd a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o'r neilltu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad.
6 A'r rhan arall o hanes Asareia, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?