10 A'r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a'r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a'i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.
11 Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.
12 A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a'r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.
13 Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a'i fwyd‐offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.
14 A'r allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd, ac a'i rhoddes hi o du gogledd yr allor.
15 A'r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a'r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a'i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a'u bwyd‐offrwm hwynt, a'u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.
16 Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.