1 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd.
2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.
3 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.
4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.
5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.