30 A'r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.
31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.
32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o'i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn hi.
33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.
34 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
35 A'r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
36 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.