1 Ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o'i hamgylch hi.
2 A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r brenin Sedeceia.
3 Ac ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.
4 A'r ddinas a dorrwyd, a'r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a'r brenin a aeth y ffordd tua'r rhos.
5 A llu'r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a'i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a'i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho.
6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.
7 Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a'i dygasant ef i Babilon.