5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6 A'r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.
7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i'm herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
8 Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.
9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i'r fyddin, nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.
10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i'r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.
11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i'r Arglwydd, fel yr ymofynnom ni â'r Arglwydd trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.