14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.
15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a'i gwlychodd mewn dwfr, ac a'i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.
16 Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.
17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
19 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i'w feibion yn dragywydd.
20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.