18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
19 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i'w feibion yn dragywydd.
20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.
21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a'r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a'r bobl a ffodd i'w pebyll.
22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.
23 A'r rhan arall o hanes Joram, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
24 A Joram a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.