11 A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a'i hanfonodd at Solomon, O gariad yr Arglwydd ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.
12 Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i'r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun.
13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o'r eiddo fy nhad Hiram:
14 Mab gwraig o ferched Dan, a'i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda'th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.
15 Ac yn awr, y gwenith, a'r haidd, yr olew, a'r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i'w weision:
16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a'u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.
17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â'r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.