15 Ac yn awr, y gwenith, a'r haidd, yr olew, a'r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i'w weision:
16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a'u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.
17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â'r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.
18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.