3 A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna â minnau.
4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw, i'w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i'r gwastadol osodiad bara, a'r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr Arglwydd ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.
5 A'r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na'r holl dduwiau.
6 A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?
7 Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda'r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.
8 Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus: ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda'th weision dithau;
9 A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol.