8 A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i'th enw, gan ddywedyd,
9 Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a'n gwaredi ni.
10 Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt:
11 Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i'n bwrw ni allan o'th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.
12 O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i'n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.
13 A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â'u rhai bach, eu gwragedd, a'u plant.
14 Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa.