4 Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a'r Lefiaid, ac a'u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain,
5 Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o'r lle sanctaidd.
6 Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw, ac a'i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd, ac a droesant eu gwarrau.
7 Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.
8 Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â'ch llygaid.
9 Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merched, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
10 Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.