12 Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a'r tywysogion, yn ôl gair yr Arglwydd.
13 A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.
14 A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.
15 Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis: yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd.
16 A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.
17 Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i'w sancteiddio i'r Arglwydd.
18 Oherwydd llawer o'r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un