12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
13 A nesaodd Joab, a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel: a hwy a ffoesant o'i flaen ef.
14 A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.
15 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.
16 A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tu hwnt i'r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o'u blaen.
17 A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a'r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.
18 A'r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o'r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.