29 A'r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.
30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i'w dŷ mewn heddwch.
31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim, ac a aeth dros yr Iorddonen gyda'r brenin, i'w hebrwng ef dros yr Iorddonen.
32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn darparu lluniaeth i'r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe.
33 A'r brenin a ddywedodd wrth Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a mi a'th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem.
34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda'r brenin i Jerwsalem?
35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?