1 Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel;
2 Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a'i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.
3 Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw:
4 Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o'r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw.
5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a'm holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6 A'r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.
7 Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.