19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o'r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf.
20 A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.
21 Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.
22 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn.
23 Anrhydeddusach oedd na'r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a'i gosododd ef ar ei wŷr o gard.
24 Asahel brawd Joab oedd un o'r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,
25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,