5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a'm holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6 A'r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.
7 Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.
8 Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.
9 Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.
10 Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o'i law ef wrth y cleddyf: a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a'r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.
11 Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A'r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys: a'r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.