1 A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2 A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a'i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;
3 A'i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a'r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;
4 A'r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a'r pumed, Seffatia, mab Abital: