32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A'r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a'r holl bobl a wylasant.
33 A'r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?
34 Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A'r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.
35 A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo'r haul.
36 A'r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a'r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.
37 A'r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
38 A'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?